BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofiwch am y Dreth Deunydd Pacio Plastig

Nodiadau atgoffa defnyddiol cyn 1 Ebrill 2022:

  • bydd y Dreth Deunydd Pacio Plastig (PPT) newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2022. O'r dyddiad hwn ymlaen, os ydych chi naill ai'n cynhyrchu neu'n mewnforio deunydd pacio plastig, rhaid i chi wirio a ydych chi'n gorfod talu PPT. Bydd gennych 30 diwrnod i gofrestru ar gyfer y dreth o'r dyddiad y byddwch yn dod yn atebol 
  • ewch i GOV.UK a mynd drwy'r camau i'ch helpu i benderfynu a yw eich busnes yn gorfod talu PPT 
  • ni fydd angen i unrhyw un ffeilio ffurflen PPT na thalu'r dreth tan fis Gorffennaf 2022 ar y cynharaf, ond efallai y bydd angen i chi gofrestru cyn y pwynt hwn.  

Bydd PPT yn cymell busnesau i ddefnyddio plastig wedi'i ailgylchu wrth gynhyrchu deunydd pacio plastig. Bydd gweithgynhyrchu neu fewnforio 10 tunnell neu fwy o ddeunyddiau pacio plastig sy'n cynnwys llai na 30% o blastig wedi'i ailgylchu yn cael ei drethu ar raddfa o £200 y dunnell. 

Bydd angen i fusnesau dros y trothwy cofrestru sydd eisoes yn cynnwys plastig wedi'i ailgylchu yn eu deunydd pacio gofrestru o hyd ond ni fyddant yn talu unrhyw dreth. 

Canllawiau cam wrth gam 

Mae CThEM wedi diweddaru eu canllawiau cam wrth gam i roi cymorth ychwanegol i fewnforwyr deunydd pacio plastig:

Canllawiau diweddaraf 

Mae diweddariadau’n cynnwys: 

  • canllawiau ychwanegol ar ailbrosesu plastig
  • dolenni ychwanegol i is-ddeddfwriaeth ar dudalen gasglu PPT GOV.UK
  • canllawiau cliriach sy'n dweud na all elusennau a busnesau tramor heb sefydliad yn y DU gofrestru ar gyfer PPT fel grŵp o fis Ebrill 2022 ymlaen, ac y bydd angen iddynt gofrestru'n unigol. 

Mae'r holl ganllawiau craidd ar PPT ar gael yn Gymraeg erbyn hyn ar y dudalen ar gasglu ar GOV.UK.

Os ydych chi'n dal i fod yn ansicr a yw unrhyw ddeunyddiau pacio plastig penodol o fewn cwmpas PPT, gall CThEM roi barn. Fodd bynnag, byddai angen gwybodaeth arnynt am yr hyn y mae'r cynnyrch wedi'i gynllunio i fod yn addas ar ei gyfer a gwybodaeth am sut y defnyddir y cynnyrch. Lle bo'n bosibl, bydd lluniau a dolenni i wefannau lle caiff y cynnyrch ei brynu neu ei werthu yn helpu CThEM i wneud penderfyniad cyflym a gwybodus hefyd. Os hoffech gael barn CThEM, e-bostiwch indirecttaxdesign.team@hmrc.gov.uk 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.