BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr NCSC i Sefydliadau Bach

P’un ai’ch bod yn gweithio i chi’ch hun neu’n rhedeg busnes gyda gweithwyr, ni ddylai seiberddiogelwch godi ofn arnoch.

Mae gan y National Cyber Security Centre (NCSC) gyngor a gwybodaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh).

Mae NCSC newydd lansio eu sesiynau e-ddysgu Cyber Security for Small Organisations ac awgrymiadau gwych i staff, sy’n caniatáu i chi gynnwys y pecyn yn rhan o hyfforddiant eich sefydliad chi.

I gael rhagor o fanylion am seiberddiogelwch, ewch i wefan NCSC.

Hefyd, gallwch gofrestru i dderbyn cylchlythyr NCSC i sefydliadau bach. Y nod yw esbonio materion neu broblemau seiber cam wrth gam, a rhoi cyngor ac adnoddau i chi leihau’r perygl o ddioddef seiber ymosodiad. Bydd y cylchlythyr yn trafod pwnc gwahanol bob mis gyda chyngor a dolenni i wybodaeth bellach.

Gallwch gofrestru i dderbyn cylchlythyr NCSC ar wefan https://ncsc-production.microsoftcrmportals.com/subscribe/ 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.