BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofrestrwch ar gyfer gweminarau Searchlight

Mae'r Defence Science and Technology Laboratory (DSTL) wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer cyfres newydd o weminarau a gynlluniwyd i helpu busnesau bach a chanolig i weithio gyda'r sector amddiffyn.

Gweminarau rhad ac am ddim yw’r rhain, a does dim rhaid i fusnesau fod wedi gweithio gyda DSTL neu'r sector amddiffyn o'r blaen.

Mae croeso i weithgynhyrchwyr cyfarpar a deunyddiau, peirianwyr, arloeswyr, ymchwilwyr, academyddion, ac eraill sydd â gwir ddiddordeb a'r gallu i weithio gyda DSTL.

Dyddiadau ac amserau gweminarau

  • Cyber: 19 Hydref 2021, 10am - 11:15am
  • Defence S&T Futures: 19 Hydref 2021, 1pm - 2:15pm
  • Advanced energetic materials: 16 Tachwedd 2021, 10am - 11:15am
  • High speed and hypersonic science and technology: 14 Rhagfyr 2021, 10am - 11:15am
  • Directed energy weapons science and technology future roadmap: 16 Rhagfyr 2021, 1pm - 2:15pm
  • Space: 18 Ionawr 2022, 10am – 11:15am
  • Artificial intelligence: 20 Ionawr 2022 1pm - 2.15pm

Rhagor o wybodaeth yn Gov.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.