BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cymorth ar gyfer yr Hunangyflogedig

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth i’r bobl Hunangyflogedig sydd wedi’u heffeithio gan y Coronafeirws er mwyn roi’r un lefel o gymorth â gweithwyr eraill iddynt.

Mae’r Cynllun Cymorth Incwm newydd i’r Hunangyflogedig yn golygu bydd y rheini sy’n gymwys yn derbyn grant arian parod sydd werth 80% o’u helw masnachu misol cyfartalog dros y tair blynedd diwethaf.

Bydd y cynllun yn agored i’r rheini oedd ag elw masnachu llai na £50,000 yn 2018-19, neu’r rheini oedd ag elw masnachu cyfartalog llai na £50,000 o 2016-17, 2017-18 a 2018-19.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth Hunangyflogaeth ewch if wefan GOV.UK.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau am y coronafeirws gan Fusnes Cymru er mwyn cael gwybodaeth ynghylch sut gall eich busnes ddelio â’r Coronafeirws.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.