BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws

Bydd gwasanaeth ar-lein newydd, ‘Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws’ yn cael ei lansio ar 26 Mai 2020 ar gyfer cyflogwyr bach a chanolig i adennill taliadau Tâl Salwch Statudol y maen nhw wedi’u gwneud i weithwyr presennol neu flaenorol.

Gall cyflogwyr hawlio am gyfnodau salwch a dechreuodd ar neu ar ôl:

  • 13 Mawrth 2020 – os oedd gan weithwyr goronafeirws neu’r symptomau neu’n hunanynysu am fod gan rywun sy’n byw gyda nhw’r symptomau
  • 16 Ebrill – os oedd gweithwyr yn gwarchod eu hunain yn sgil coronafeirws.

Y gyfradd wythnosol oedd £94.25 cyn 6 Ebrill ac mae bellach yn £96.85. Os ydych chi’n gyflogwr sy’n talu mwy na chyfradd wythnosol y Tâl Salwch Statudol, gallwch ond hawlio hyd at y gyfradd wythnosol a delir.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.