BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Esemptiad MOT i berchnogion cerbydau

Bydd perchnogion cerbydau’n cael esemptiad o 6 mis rhag gorfod cael prawf MOT. Bydd hyn yn golygu eu bod yn gallu parhau teithio i’r gwaith pan na fydd modd iddyn nhw weithio gartref, neu siopa am hanfodion yn ystod y cyfnod yma o COVID-19.

Bydd pob car, fan a beic modur y byddai angen prawf MOT arnyn nhw fel rheol yn cael esemptiad rhag bod angen prawf o 30 Mawrth 2020 ymlaen.

Rhaid cadw'r cerbydau mewn cyflwr sy’n addas i fod ar y ffordd, a bydd garejys yn aros ar agor ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol. Bydd modd erlyn gyrwyr os byddan nhw’n gyrru cerbydau nad ydyn nhw’n ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.