BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Gweithio’n ddiogel yn ystod coronafeirws

Mae Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriad â’r diwydiant, wedi llunio canllawiau ‘diogel rhag COVID-19’ i helpu i sicrhau bod gweithleoedd mor ddiogel â phosibl.

Mae’r canllawiau newydd yn cwmpasu 8 lleoliad gwaith sy’n cael agor, o amgylcheddau awyr agored a safleoedd adeiladu i ffatrïoedd a tecawês.

Dyma gamau ymarferol ar gyfer busnesau sy’n canolbwyntio ar bum pwynt allweddol, y dylid eu rhoi ar waith cyn gynted ag sy’n ymarferol:

  1. Os gallwch chi, gweithiwch gartref
  2. Cynhaliwch asesiad risg COVID-19, mewn ymgynghoriad â gweithwyr neu undebau llafur
  3. Cadwch bellter cymdeithasol o 2 fetr, pryd bynnag y bo hynny’n bosibl
  4. Lle na all pobl gadw 2 fetr ar wahân, rheolwch risg trosglwyddo
  5. Dilynwch ac atgyfnerthwch brosesau glanhau

Mae’r 8 canllaw yn cwmpasu mathau gwahanol o waith. Mae gan sawl busnes fwy nag un math o weithle, fel swyddfa, ffatri a fflyd o gerbydau. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio mwy nag un o’r canllawiau hyn wrth i chi ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw gweithwyr yn ddiogel.

Mae'r canllawiau yn cynnwys:

  • adeiladu a gwaith awyr agored arall
  • ffatrïoedd a warysau
  • cartrefi
  • labordai a chyfleusterau ymchwil
  • swyddfeydd a chanolfannau cyswllt
  • bwytai sy’n cynnig gwasanaeth tecawê neu ddosbarthu
  • siopau a changhennau
  • cerbydau

Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho’r canllawiau, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.