BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Hyfforddiant mewn Rhaglenni Sgiliau Hyblyg i fusnesau

Yn sgil yr argyfwng COVID-19 bydd llawer o fusnesau yn cael eu gorfodi i ohirio darpariaeth wyneb yn wyneb a/neu hyfforddiant oddi ar y safle. Bydd hyn yn golygu cynnal rhaglenni hyfforddiant y gellir eu darparu ar-lein am y tro. Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yma i gynorthwyo’ch busnes i gynnal hyfforddiant ar-lein.

Mae’r Rhaglen yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru i roi cyfraniad ariannol tuag at uwchsgilio gweithwyr busnesau yng Nghymru,

Mae hyn yn cynnwys gweithwyr ar ffyrlo, yn sgil COVID-19.

Mae’r rhaglenni presennol yn cynnwys:

  • sgiliau digidol uwch
  • sgiliau allforio
  • gweithgynhyrchu a pheirianneg uwch
  • clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau ac uwchsgilio yn y sector creadigol

O dan y Rhaglen, bydd yr holl gyrsiau hyfforddiant a gymeradwyir yn denu cyfraniad o 50% tuag at gyfanswm costau cymwys gan Lywodraeth Cymru.

Am ragor o fanylion, ewch i wefan Porth Sgiliau Busnes Cymru.

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.