BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Pay it Forward

Mae’r ymgyrch Pay It Forward yn cefnogi busnesau, sefydliadau a’r hunangyflogedig drwy’r argyfwng coronafeirws.

Gall busnesau bach drefnu ymgyrch Pay it Forward i werthu eu gwasanaethau ymlaen llaw ac arallgyfeirio masnach nawr i sicrhau llif arian parhaus.

Dyw Crowdfunder ddim yn codi unrhyw ffioedd llwyfan na ffioedd ar drafodiadau ar hyn o bryd sy’n golygu ei fod am ddim i fusnesau bach ac mae Enterprise Nation yn cynnig mynediad at hyfforddiant a chefnogaeth am ddim i fusnes, er mwyn helpu gyda gwerthiant ar-lein, marchnata, llif arian ac arallgyfeirio, os oes angen.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Crowdfunder.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.