BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Québec-Cymru: cynllun cydweithredu 2020

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Quebec wedi lansio galwad am gyllid i gefnogi sefydliadau yng Nghymru a Quebec, Canada, i ffurfio mentrau cydweithredu a phartneriaethau sy’n cyfrannu ar ymdrechion adfer ar ôl Covid-19.

Mae’n rhaid i bob cynnig fod â phartner wedi’i leoli yng Nghymru a phartner wedi’i leoli yn Quebec ac mae’n rhaid i bob partner wneud cais i’w llywodraeth briodol.

Mae £4,300 ar gael i bartner o Gymru a’r cyfwerth o $7,500 CAD ar gael i’r partner o Quebec.

Mae’r sectorau sy’n cael blaenoriaeth ar gyfer yr alwad yn cynnwys:

  • gwyddorau bywyd
  • seiberddiogelwch
  • deallusrwydd artiffisial
  • awyrofod

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Awst 2020 am 11:59pm.

Am ragor o wybodaeth am yr alwad hon ac i wneud cais, ewch i wefan LLYW.Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.