BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol

Bydd cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru a weinyddir gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn canolbwyntio ar leihau’r anghydraddoldeb sy’n deillio o’r pandemig coronafeirws.

Wrth i Lywodraeth Cymru lacio’r cyfyngiadau symud a phobl Cymru yn symud ymlaen, mae angen i’r cyllid ymateb i heriau newydd.

Bydd Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSRF) yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Bydd grantiau’n cefnogi mudiadau nid-er-elw sy’n gweithio ar raddfa gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru, a gallant fod rhwng £10,000 – £100,000. 

Mae’r gronfa’n canolbwyntio’n bennaf ar gyllid refeniw; fodd bynnag, gall eich cais am gyllid gynnwys costau ar gyfer prynu cyfarpar ‘cyfalaf’ llai o faint, gan gynnwys defnyddiau traul (er enghraifft, cyfarpar diogelu personol, sgriniau ac ati).

Er mwyn ceisio am arian, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Cais Amlbwrpas WCVAs (PCA).

Gall mudiadau gofrestru trwy ymweld â’r wefan: https://map.wcva.cymru

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan CGGC.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.