BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor i geisiadau

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor ei Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru ar gyfer ceisiadau. Fel rhan o gronfa argyfwng £53 miliwn Llywodraeth Cymru, bydd y Cyngor yn buddsoddi £27.5 miliwn i helpu sefydliadau i oroesi wrth iddynt wynebu pwysau ariannol y coronafeirws.

Bydd y Cyngor yn rheoli’r arian ar gyfer:

  • theatrau, canolfannau celfyddydol a neuaddau cyngerdd
  • orielau
  • sefydliadau sy'n cynhyrchu ac yn teithio eu gwaith celfyddydol
  • sefydliadau sy'n cynnig gwaith celfyddydol cyfranogol

Mae'r gronfa wedi ei rhannu i ddwy ran:

Mae cronfa dan reolaeth y Cyngor yn cau 5pm ddydd Mercher 9 Medi 2020.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheoli’r arian ar gyfer:

  • lleoliadau cerddorol ar lawr gwlad
  • safleoedd treftadaeth
  • amgueddfeydd, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau lleol
  • digwyddiadau a gwyliau
  • sinemâu annibynnol
  • gweithwyr creadigol llawrydd unigol

Bydd manylion y cronfeydd a reolir gan Lywodraeth Cymru ar gael yn fuan, a bydd gwiriwr cymhwyster ar-lein ar gael a fydd yn caniatáu i gwmnïau baratoi ceisiadau cyn bod y gronfa yn agor.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.