BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Ailagor Theatrau

Mewn ymateb i’r argyfwng coronafeirws, mae’r Ymddiriedolaeth Theatrau wedi ailgyflwyno eu cynlluniau grantiau bach i gefnogi theatrau i dalu costau ychwanegol ailagor ar ôl cau am sawl mis.

Mae’r grantiau o hyd at £5,000 ar gael i helpu theatrau dielw ledled y DU i wneud addasiadau sy'n gysylltiedig â Covid-19 a pharatoi ar gyfer ailagor.

Bydd Cronfa Ailagor Theatrau yn cefnogi gwelliannau i adeiladau a phrynu offer a fydd yn cefnogi'r theatr i allu agor yn hyfyw ac yn ddiogel. Ni fydd yn talu costau refeniw.

Rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sy'n dangos sut bydd y prosiect yn cefnogi ailagor eu theatr yn ddiogel.

Anogir theatrau’r Ymddiriedolaeth Theatrau i drafod y prosiect / gwaith cyn gwneud cais. Yn dilyn sgwrs gychwynnol, dylid anfon ceisiadau at advice@theatrestrust.org.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd ar 5 Hydref 2020.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Theatrau.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.