BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Buddsoddi gwerth £130m i Gymru yn paratoi ar gyfer lansiad yn yr hydref

Mae Banc Busnes Prydain yn gwahodd cynigion gan ddarpar reolwyr cronfa i weithredu cronfa newydd.

Mae Banc Busnes Prydain ar y trywydd iawn i lansio cronfa fuddsoddi gwerth £130 miliwn yr hydref hwn, gyda'r nod o sbarduno twf busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Mae Cronfa Fuddsoddi Cymru yn un o gyfres o Gronfeydd Buddsoddi Gwledydd a Rhanbarthau a fydd yn cael ei lansio gan Fanc Busnes Prydain a fydd yn cyflwyno ymrwymiad gwerth £1.6 biliwn o gyllid newydd i fusnesau llai ledled y DU. 

Bydd Cronfa Fuddsoddi Cymru yn gweithredu ar draws tair haen: benthyciadau llai (£25,000 - £100,000), dyledion (£100,000 - £2 filiwn) ac ecwiti (hyd at £5 miliwn).

Mae Banc Busnes Prydain bellach yn gwahodd cynigion gan ddarpar reolwyr cronfa i weithredu'r Gronfa Fuddsoddi newydd i Gymru drwy ei wefan Requests for Proposals - British Business Bank (british-business-bank.co.uk).

Mae'n disgwyl penodi rheolwyr cronfa yn haf 2023 cyn lansio yn yr hydref.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Press Release - March 9, 2023 - British Business Bank (british-business-bank.co.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.