BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyflwyno Cronfa Cymunedau’r Arfordir ar ran Llywodraeth Cymru.

Nod Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru yw annog datblygiad economaidd cymunedau arfordirol y Deyrnas Unedig trwy ddyfarnu arian i greu twf economaidd a swyddi cynaliadwy.

Gallwch ymgeisio am rownd chwech o Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymrur yng Nghymru os ydych yn:

  • gwmni sector preifat
  • awdurdod lleol
  • corff sector cyhoeddus eraill
  • elusen
  • mudiad sector gwirfoddol a chymunedol
  • menter cymdeithasol, gan gynnwys cydweithfeydd a mentrau sy’n eiddo i’r gymuned
  • asiantaeth datblygu

Gall ymgeiswyr ofyn am grantiau unigol o rhwng £50,000 a £300,000 am bob mudiad. Rhaid i bob prosiect cael eu cwblhau erbyn 30 Mehefin 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw ganol dydd ar dydd Gwener 2 Hydref 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.