BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2021
Diweddarwyd diwethaf:
12 Medi 2023

Bydd Cronfa Ddatblygu newydd Cymru Greadigol yn cynnwys dwy ffrwd yn canolbwyntio ar gefnogi prosiectau o fewn y sectorau teledu a chynnwys digidol (gan gynnwys gemau, animeiddio, Createch a gwasanaethau creadigol).

Anelir y cyllid hwn at fusnesau yng Nghymru sy'n datblygu cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau yn y Diwydiannau Creadigol. Ni fwriedir i'r rownd hon gefnogi prosiectau yn y sector technoleg ehangach.

Mae £1.5 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau yn y rownd ariannu hon. Bydd prosiectau’n cael eu blaenoriaethu yn ôl eu gallu i fodloni meini prawf y cyllid fel y’u hamlinellir yn y canllawiau Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol 2021 Nodiadau Canllaw Allanol 

Nodwch fod hon yn gronfa gystadleuol ac na fydd pob prosiect yn llwyddiannus. Bydd uchafswm o £25,000 yn cael ei ddyrannu i bob prosiect llwyddiannus.

Y Broses Ymgeisio

Bydd yr Alwad hon am gynigion am gyllid yn dechrau ddydd Llun 13 Medi 2021, ac  yn cau i geisiadau ddydd Llun 11 Hydref 2021 am hanner dydd.

Nid ystyrir unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd yn hwyr.

I gael rhagor o wybodaeth a nodyn canllaw ar gyllid defnyddiwch y ddolen ganlynol Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol | Busnes Cymru (gov.wales)

Cyn gwneud cais, mae gennych yr opsiwn i drafod eich cynnig ag un o Reolwyr Datblygu Sector Cymru Greadigol drwy e-bost yn CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru

Gall ein tîm roi cyngor mewn perthynas â chymhwysedd a, lle bo hynny'n briodol, roi arweiniad pellach ar eich cynnig.

I ofyn am ffurflen gais anfonwch e-bost at CymorthAriannuCymruGreadigol@llyw.cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.