BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Diwydiannau Creadigol

Bydd Innovate UK, fel rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn mewn prosiectau arloesi.

Nod y Gronfa Diwydiannau Creadigol yw darparu pecyn o gymorth wedi'i dargedu ar gyfer twf fel y gall busnesau creadigol uchelgeisiol gyrraedd eu potensial.

Gall busnesau micro a bach sydd wedi cofrestru yn y DU yn y sector creadigol wneud cais am becyn cymorth i ddatblygu eu busnes. Mae'r pecyn yn cynnwys cymorth parhaus gan Innovate UK EDGE a chyllid o hyd at £25,000 ar gyfer prosiectau arloesi.

Mae Innovate UK yn awyddus i ariannu prosiectau sydd yn:

  • cynnig syniad sy'n amlwg yn arloesol ac yn uchelgeisiol
  • newydd i'ch busnes
  • creu ffrwd refeniw newydd, er enghraifft, cynhyrchion, gwasanaethau neu eiddo deallusol newydd
  • ymateb i amodau newidiol y farchnad, megis dulliau newydd o ddefnyddio gan y gynulleidfa, neu fabwysiadu technolegau newydd o fewn y sector
  • barod i'r farchnad o fewn 12 mis ar ôl derbyn cymorth
  • gallu dechrau'n gyflym
  • cynrychioli gwerth am arian

Dim ond ar gyfer busnesau micro a bach sy'n gweithredu yn niwydiannau creadigol y DU neu yn eu cefnogi y mae'r Gronfa Diwydiannau Creadigol ar gael, a dim ond ar gyfer busnesau sydd ddim wedi cael arian grant arloesi gan Innovate UK erioed o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 16 Mehefin 2021. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan KTN.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.