BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth Cymru Greadigol

Nod y gronfa yw annog busnesau cerddoriaeth i nodi meysydd i'w gwella o fewn eu sefydliadau a'u gweithrediadau, ond na fyddai'n bosibl heb gymorth y gronfa, oherwydd cyfyngiadau ariannol presennol a chyfredol. Diben y Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth yw i fusnesau cerddoriaeth bach a chanolig wneud cais am gyllid a fyddai'n mynd tuag at wella a chynyddu rhagolygon masnachol a chynaliadwyedd eu busnesau; ac o ganlyniad, gyfrannu at ddatblygiad a thwf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. 

Bydd angen i geisiadau gan fusnesau cerddoriaeth ddangos mai eu prif swyddogaeth yw rhaglennu, recordio neu gael eu defnyddio ar gyfer ymarfer cerddoriaeth wreiddiol, cynnal a/neu hyrwyddo digwyddiadau cerddoriaeth fyw o natur fasnachol. Gall y gerddoriaeth sy'n cael ei chynnal, ei recordio, ei hymarfer neu ei hyrwyddo gan y busnes fod o'r sbectrwm llawn o genres cerddoriaeth boblogaidd gyfoes (electronig; hip-hop; indi ac amgen; metel a phync; pop; roc; ac ati). 

Bydd y gronfa'n cau i geisiadau ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2021 am 12.00 hanner dydd.

Am ragor o wybodaeth ewch i Cronfa Gyfalaf Cerddoriaeth (MCF) Cymru Greadigol | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.