BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Gymunedol NFU Mutual

Gall elusennau, ysgolion a grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau hyd at £1,000 drwy Gronfa Gymunedol NFU Mutual Mae’r gronfa ar gael mewn ardaloedd sy’n lleol i weithrediadau NFU Mutual yn y DU

Mae ceisiadau’n fwy tebygol o lwyddo os ydyn nhw’n bodloni un neu fwy o flaenoriaethau canlynol y gronfa:

  • cysylltu’r gymuned; lleihau ynysu cymdeithasol, darparu cyfleoedd ac annog cydnerthedd
  • darparu gofal a chymorth i aelodau o'r gymuned sy’n agored i niwed
  • lleddfu tlodi; gwella iechyd a llesiant ein cymunedau
  • gwella addysg a phrofiadau pobl ifanc

Bydd blaenoriaeth hefyd yn cael ei rhoi i’r canlynol:

  • ceisiadau sy’n cael eu cefnogi gan aelodau o staff NFU Mutual neu un o swyddfeydd eu canghennau lleol
  • buddiolwyr nad ydynt wedi cael cyllid o'r blaen

Mae tair rownd o geisiadau yn 2020 ac mae’n rhaid i’r ceisiadau ddod i law erbyn:

  • 30 Mehefin 2020
  • 30 Medi 2020
  • 1 Rhagfyr 2020

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan NFU Mutual.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.