Bydd gan bobl ledled Cymru y cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, caeau chwarae a siopau cornel sydd mewn perygl, diolch i lansiad Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, a fydd yn gweld mwy na £7 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau yng Nghymru.
Bydd y gronfa yn para pedair blynedd (hyd 2024/2025). Bydd sawl cylch gwneud cais am arian. Agorodd y cyntaf ar 15 Gorffennaf 2021 a bydd yn cau ar 13 Awst 2021.
Gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol wneud cais am gyllid cyfatebol.
Dyma ddyddiadau allweddol eraill:
- Rhagfyr 2021 - agor cylch 2
- Mai 2022 – agor cylch 3
Mae prosbectws y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gael yma.
Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol – sesiwn gwybodaeth a sesiwn holi ac ateb
Ymunwch â'r wybodaeth ar-lein hon a'r sesiwn Holi ac Ateb a drefnwyd ar y cyd gan y Grŵp Rhanddeiliaid Mentrau Cymdeithasol ddydd Llun 26 Gorffennaf rhwng 2pm a 3pm, i gael gwybod mwy am y Gronfa o Lywodraeth y DU ac i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.