BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Rhwydweithiau Natur – Rownd Dau

Ydych chi'n unigolyn neu sefydliad yn gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru?

Oes angen cyllid arnoch ar gyfer prosiect sy'n seiliedig ar natur sy'n barod i ddechrau?

Ydy eich prosiect yn canolbwyntio ar wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru?

Oes angen grant rhwng £30,000 ac £1 miliwn arnoch?

Os ydych yn cytuno gyda'r cwestiynau hyn, yna mae'n bosibl fod y Gronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) ar eich cyfer chi.

Nod y gronfa hon yw cryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur wrth fynd ati i annog y gwaith o ymgysylltu â'r gymuned.

Mae'r cynllun yn agored i bob unigolyn a mudiad sy'n gweithio gyda threftadaeth naturiol yng Nghymru. Darperir hyn bod gennych y caniatâd, y trwyddedau a'r hawliau cywir yn eu lle i ymgymryd â gweithgarwch ar y rhwydwaith safle gwarchodedig neu'r ardaloedd cyfagos. Mae'n rhaid i'r safle/tir rydych chi'n ei wella fod yng Nghymru, ond gallwch chi/eich sefydliad fod wedi'ch lleoli yn unrhyw le yn y DU.  

Grantiau rhwng £30,000 a £250,000: 

  • dyddiad cau ar gyfer ymgeisio 12pm, 19 Hydref 2022

Gantiau rhwng £250,000 a £1 miliwn:

  • dyddiad cau Mynegi Diddordeb gorfodol (EOI): 20 Medi 2022
  • dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 12pm, 7 Rhagfyr 2022

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Cronfa Rhwydweithiau Natur (rownd dau) | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (heritagefund.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.