BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Llywodraeth y DU enillwyr cyntaf cystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 1: Haf 2020. Mae’r rhestr lawn o brosiectau ac enillwyr a fydd yn derbyn cyllid y Gronfa gwerth £16.5 miliwn i’w gweld yma.
 

Dyma’r prosiectau a gafodd gynnig cyllid yng Nghymru:

  • Gwaith dur Celsa Manufacturing (UK) Cyf yng Nghaerdydd. Cynigiwyd £3 miliwn i’r cwmni hwn tuag at brosiect gwerth £8.6 miliwn i osod cyfarpar i gyflymu’r broses o doddi dur yn y gwaith dur a chynyddu cynhyrchiant gan ddefnyddio’r un mewnbwn ynni..
  • BAE Systems Properties Cyf, Glascoed. Cynigiwyd £82,200 tuag at brosiect gwerth £165,000 i ymgymryd ag astudiaethau Dylunio Peirianneg Pen Blaen (FEED) er mwyn lleihau defnydd o ynni ac ôl troed carbon y safle 20-25% trwy osod technoleg sy’n defnyddio ynni yn fwy effeithlon mewn canolfan ynni newydd.

Cyhoeddir yr ail restr o enillwyr cystadleuaeth Cam 1 Haf 2020 yn ddiweddarach eleni.

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 1: Gwanwyn 2021

Mae cystadleuaeth y Gronfa Cam 1: Gwanwyn 2021 bellach ar agor tan 14 Gorffennaf. Mae cyllid grant gwerth hyd at £40 miliwn ar gael ar gyfer prosiectau ac astudiaethau effeithlonrwydd ynni. Mae canllawiau ar sut i wneud cais ar gael yma.
 

Clinigau i randdeiliaid Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol

Mae BEIS ac Innovate UK yn cynnal cyfres o glinigau rhanddeiliaid gydol ffenestr y gystadleuaeth er mwyn helpu a chefnogi busnesau sy’n ystyried gwneud cais am gyllid y Gronfa.
 
Mae’r clinigau i randdeiliaid yn helpu busnesau sy’n bwriadu cynnig am gyllid y Gronfa trwy eu galluogi i siarad yn uniongyrchol â BEIS ac Innovate UK a gofyn cwestiynau am gynigion posibl, cwmpas y gystadleuaeth, meini prawf cymhwysedd, sut i wneud cais am gyllid, a gwasanaethau cymorth a gwybodaeth y Gronfa.
 

Cynhelir y clinigau nesaf i randdeiliaid ar 15 Mehefin 2021 a 29 Mehefin 2021. Gallwch gofrestru i fynychu yma.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.