BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol – Cam 2 ar agor nawr!

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi agor cystadleuaeth newydd y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) – Cam 2: hydref 2021.

Gall busnesau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyflwyno cynnig am gyfran o hyd at £60 miliwn yn awr mewn cyllid grant drwy’r ffenestr gystadleuaeth newydd, sydd ar agor am geisiadau tan ddydd Llun 6 Rhagfyr 2021.

Cynhelir gweminar gyfarwyddyd ar gyfer y gystadleuaeth rhwng 10am a 12:30pm ddydd Mercher 6 Hydref 2021. Cadwch eich lle drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: Summary - Industrial Energy Transformation Fund Phase 2 Competition Briefing (cvent.com)

Am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth IETF Cam 2: hydref 2021 gwerth £60 miliwn, edrychwch ar y canllawiau i ymgeiswyr a chyflwyno cais am gyllid yn Industrial Energy Transformation Fund (IETF) Phase 2: Autumn 2021 - how to apply - GOV.UK (www.gov.uk) 

I helpu darpar ymgeiswyr i ddod o hyd i bartneriaid addas, mae BEIS wedi lansio platfform rhwydweithio IETF. I gofrestru ac archebu cyfarfodydd, ewch i Industrial Energy Transformation Fund Phase 2 (meeting-mojo.com). Bydd swyddogion BEIS yn cynnig trafodaethau cyfrinachol un i un drwy’r platfform rhwydweithio ar ddiwrnod y digwyddiad cyfarwyddyd hefyd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gystadleuaeth Cam 2 neu os ydych chi am drafod cais posibl, cysylltwch ag IETF@beis.gov.uk


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.