BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) yn lansio ffenestr cystadleuaeth Cam 2 gwerth £60 miliwn newydd

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi lansio ffenestr cystadleuaeth Cam 2: Gwanwyn 2022 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol. Mae Cam 2 yn werth oddeutu £220 miliwn mewn cyllid rhwng Hydref 2021 a 2025.

Gall busnesau yng Nghymru nawr gynnig am gyfran o hyd at £60 miliwn mewn cyllid grant drwy ffenestr cystadleuaeth Cam 2: Gwanwyn 2022. I weld y canllawiau ar wneud cais a chyflwyno cais am gyllid, ewch i dudalen cystadleuaeth GOV.UK.

Bydd y gystadleuaeth ar agor i geisiadau o ddydd Llun 31 Ionawr a bydd yn para tan  ddydd Gwener 29 Ebrill 2022. Bydd y gystadleuaeth yn darparu cyllid grant tuag at gostau:

  • Astudiaethau - astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg i ymchwilio i brosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio a nodwyd cyn penderfyniad ynghylch buddsoddi.
  • Prosiectau Effeithlonrwydd Ynni - defnyddio technolegau i leihau defnydd ynni diwydiannol.
  • Prosiectau Datgarboneiddio Dwfn – defnyddio technolegau i wneud arbedion o ran allyriadau diwydiannol. 

Gallwch weld enillwyr cystadleuaeth astudiaethau achos Cam 1 ar wefan GOV.UK

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gystadleuaeth Cam 2: Gwanwyn 2022 neu os ydych am drafod cais posibl, cysylltwch ag IETF@beis.gov.uk. Mae BEIS hefyd wedi cyhoeddi atebion i Gwestiynau Cyffredin.  

Mae’r gystadleuaeth ar agor i’r sectorau, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol canlynol, gan gynnwys:

  • Gweithgynhyrchu
  • Canolfannau data
  • Cwmnïau cloddio a chwarelydda
  • Cwmnïau adfer ac ailgylchu deunyddiau.

Digwyddiad rhanddeiliaid Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 2: Gwanwyn 2022

Mae BEIS yn cynnal gweminar Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol Cam 2: Gwanwyn 2022 ddydd Mawrth 1 Chwefror 2022.

Bydd yn gyfle i:

  • Glywed am gwmpas y cystadlaethau
  • Clywed gan berchnogion safle diwydiannol a gyllidwyd yng Ngham 1
  • Dysgu am feini prawf cymhwystra
  • Dysgu sut i wneud cais am gyllid
  • Rhwydweithio ar-lein a datblygu partneriaethau ar gyfer y cystadlaethau
  • Siarad gyda BEIS ar-lein er mwyn cael trafodaeth un i un am y cystadlaethau.

I gofrestru ar gyfer y gweminar, ewch i Summary - Industrial Energy Transformation Fund Phase 2 Spring 2022 (cvent.com)

Bydd y digwyddiad yn cael ei recordio ac ar gael i randdeiliaid ei weld ar unrhyw adeg drwy system chwarae yn ôl.

Er mwyn helpu darpar ymgeiswyr i ddod o hyd i bartneriaid addas, mae BEIS wedi lansio platfform rhwydweithio IETF. I gofrestru ac archebu cyfarfodydd, ewch i https://ietf-phase2.meeting-mojo.com. Bydd swyddogion BEIS hefyd yn cynnig trafodaethau cyfrinachol un i un drwy’r platfform rhwydweithio ar ddiwrnod y digwyddiad briffio.

Bydd BEIS yn cynnig clinigau rhanddeiliaid bob pythefnos gydol y ffenestr. Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion maes o law. Gall ymgeiswyr hefyd wylio fideos gan gyn enillwyr a chyflenwyr technolegau cymwys ar ein Marchnad Technoleg Rithiol. I gofrestru ar gyfer y Farchnad Dechnoleg, ewch i Industrial Energy Transformation Fund Phase 2 -Technology Marketplace (google.com)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.