BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfieithu am ddim i dy fusnes? Wel, Helo Blod

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim!

Gyda'n gilydd gallwn weithio ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes.

Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan – mae Helo Blod yma i dy helpu!

Mae Helo Blod yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

  • cyfieithu am ddim – gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg bob mis, yn rhad ac am ddim
  • gwirio testun – mae Helo Blod yn gallu gwirio 1,000 o eiriau bob blwyddyn am ddim, felly byddi di’n hyderus bod y deunydd rwyt ti’n ei ddefnyddio yn Gymraeg yn gywir, rho gynnig arni!
  • cyngor ac arweiniad – mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac os oes angen unrhyw beth arall yn ychwanegol, fe wnaiff Helo Blod dy gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu
  • nwyddau– mae Helo Blod hefyd yn dosbarthu laniardiau a bathodynnau Iaith Gwaith sy’n nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu’n dysgu Cymraeg, yn ogystal ag arwyddion drws Ar Agor/Ar Gau dwyieithog. 

Dod â phobl at ei gilydd. 
Creu ewyllys da. 
Cadw cwsmeriaid ffyddlon. 
Mae defnyddio ychydig o Gymraeg yn mynd yn bell. Cer draw i’r wefan i ddarganfod mwy! gov.wales/heloblod/cy 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.