BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r DU Y camau pwysicaf i BBaCH

Bydd cyfnod Pontio'r DU yn dod i ben ar 1 Ionawr 2021.  Mae angen i fusnesau sicrhau eu bod yn barod ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.

Darllenwch isod y 10 Cam Gweithredu gorau ar gyfer BBaCh:

  1. Gofalwch fod gennych rif EORI Prydain Fawr, os nad oes un gennych eto, gallwch gofrestru am ddim drwy fynd i www.gov.uk/eori
  2. Penderfynwch sut rydych chi'n mynd i wneud datganiadau tollau, i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk
  3. Penderfynwch sut byddwch chi’n cyfrifyddu TAW fewnforio pan fyddwch yn gwneud datganiad tollau, i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk
  4. Dilynwch reolau penodol Gogledd Iwerddon wrth fasnachu rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.gov.uk/guidance/trader-support-service ac yn www.gov.uk
  5. Byddwch yn barod ynglŷn â diogelu data a throsglwyddo data, I ddeall mwy am y camau y mae angen ichi eu cymryd, ewch i www.gov.uk, mae rhestr lawn o wledydd yr UE a'r AEE ar gael yma www.gov.uk/eu-eea
  6. Cyfeiriwch eich gweithwyr presennol at Gynllun Preswylio’r UE, Cewch ragor o wybodaeth yma www.gov.uk
  7. Cydymffurfiwch â'r polisïau mewnfudo newydd ar gyfer recriwtio o wledydd tramor, i gael rhagor o wybodaeth am y system newydd, gan gynnwys sut i gofrestru fel noddwr, ewch i www.pbisemployers.campaign.gov.uk
  8. Gwiriwch a oes angen fisa neu drwydded waith i deithio i'r UE at ddibenion gwaith a gwnewch gais os oes angen, i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk
  9. Sicrhewch fod eich cymwysterau proffesiynol yn cael eu cydnabod gan reoleiddwyr yr UE i allu gweithio neu wasanaethu cleientiaid yn yr UE, I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk
  10. Dylai busnes ystyried a fydd newidiadau yn y fframwaith ar gyfer dirwyn hawliau eiddo deallusol i ben yn effeithio ar eu busnes, efallai y byddant am geisio cyngor cyfreithiol i fwydo’u hasesiad, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma www.gov.uk

Beth am ymweld â Phorth Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.