BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r DU - Y Canllawiau Diweddaraf

Mae’r dyddiad y gallwch chi hawlio ad-daliadau TAW wedi’i ddiweddaru:  

  • Ad-daliadau TAW o wledydd yr UE o 1 Ionawr 2021: Gallwch chi barhau i ddefnyddio system ad-daliadau TAW yr UE i hawlio ad-daliad TAW ar dreuliau a gafwyd cyn 1 Ionawr 2021 yn aelod-wladwriaethau’r UE hyd at 11pm ar 31 Mawrth 2021. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK  
  • Ad-daliadau TAW y DU o 1 Ionawr os ydych chi’n fusnes yn yr UE: Bydd y DU yn parhau i dderbyn hawliadau am ad-daliadau drwy system ad-daliadau TAW yr UE am TAW a godir yn y DU cyn 1 Ionawr 2021 hyd at 11pm ar 31 Mawrth 2021. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK

Nwyon wedi’u fflworeiddio a sylweddau sy’n teneuo’r osôn – Sut i wneud busnes o 1 Ionawr 2021: Mae’r ffenestr cofrestru a gwneud cais am gwotâu ar gyfer HFCs ac ODS ar agor nawr. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK

Bodloni gofynion newid hinsawdd o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r ffaith bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cadarnhau bod dilyswyr wedi’u hachredu yn y DU yn gallu dilysu allyriadau 2020 ar gyfer gweithredwyr y DU yn unig, ond nid gweithredwyr yr UE. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK  

Safonau marchnata ffrwythau a llysiau ffres o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r ffaith nad yw mewnforion o’r UE i Brydain Fawr angen Tystysgrif Cydymffurfio a gyhoeddir gan yr UE cyn iddynt gael eu dosbarthu’n rhydd ym Mhrydain Fawr. Ni fydd newid i’r gofynion safonau marchnata ar gyfer mewnforio ffrwythau a llysiau i Ogledd Iwerddon o’r UE, ac nid oes newid i’r gofynion ar gyfer symud ffrwythau a llysiau i Brydain Fawr o Ogledd Iwerddon. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK  

Asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym: Mae’r rhestr o asiantau tollau a gweithredwyr parseli cyflym wedi’i diweddaru. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK  

Ewch i  Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio Ewropeaidd.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.