BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfundrefn dihysbyddu eiddo deallusol yn y DU yn y dyfodol

Mae Llywodraeth y DU yn ceisio safbwyntiau ar gyfundrefn dihysbyddu eiddo deallusol yn y DU yn y dyfodol, a fydd wrth wraidd system fasnach gyfochrog y DU.

Mae ‘dihysbyddu eiddo deallusol’ wrth wraidd y system fasnach gyfochrog. Masnach gyfochrog yw mewnforio ac allforio nwyddau sy’n cael eu gwarchod gan eiddo deallusol (er enghraifft, unrhyw beth o lyfrau, cydrannau ceir i feddyginiaethau) gan weithredwyr marchnad eilaidd. Fel arfer, bydd symud nwyddau ar y farchnad eilaidd ar sail cyfanwerthi/adwerthu ac mae’n rhan ganolog o sawl cadwyn gyflenwi. Ar hyn o bryd, gellir symud nwyddau cyfochrog o Ardal Economaidd Ewropeaidd i’r DU ond efallai na chaniateir eu i symud i’r cyfeiriad arall. Gyda’r DU bellach wedi gadael yr UE, mae’n ymgynghori ar ddyfodol system fasnachu gyfochrog y DU.

Mae’n chwilio am dystiolaeth i ddeall y gyfundrefn fwyaf priodol o ddihysbyddu hawliau eiddo deallusol a sut y dylid rhoi unrhyw newid ar waith. Mae Llywodraeth y DU yn croesawu busnesau, sefydliadau cynrychiadol, sefydliadau cymdeithas sifil, ymarferwyr cyfreithiol, creawdwyr a defnyddwyr i gyfrannu ar yr ymgynghoriad hwn.

Mae’r ymgynghoriad yn cau am 11:45pm ar 31 Awst 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.