BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer pobl y mae’r penderfyniad i gau Pont Menai wedi effeithio arnynt

Mae'r pecyn newydd a grëwyd mewn partneriaeth ag UK Highways A55 Ltd a Chynghorau Sir Ynys Môn a Gwynedd yn cynnwys ystod helaeth o fesurau, gan gynnwys parcio am ddim, datrysiadau i wella llif y traffig, mynediad at lwybrau teithio llesol a safleoedd bws ychwanegol i gefnogi’r bobl y mae’r penderfyniad i gau’r bont yn effeithio arnynt.

O 1 Rhagfyr 2022 ymlaen bydd modd parcio am ddim mewn meysydd parcio yn nhref Porthaethwy ac yn y ddau safle parcio a rhannu drwy gydol mis Rhagfyr ac Ionawr. Caiff y cymorth ymarferol hwn ei ddarparu i helpu busnesau lleol sy’n dibynnu ar fasnach dros gyfnod y Nadolig ac i leihau nifer y cerbydau sy'n dymuno croesi A55 Pont Britannia. Bydd hefyd yn gwella amser teithio i’r rheini sydd am deithio i Ynys Môn ac oddi yno. Cymerwyd y camau hyn yn ogystal â gosod arwyddion sydd eisoes yn eu lle.

I gynorthwyo gyda cholli gwasanaethau bws ar yr ynys ar ôl i'r bont gau, mae'r cyngor wedi darparu arosfannau ychwanegol yn nes at Bont Menai er mwyn caniatáu i'r cyhoedd deithio ar fws a cherdded dros y bont yn lle eu bod o bosib yn aros mewn traffig ar yr A55. Mae’r cyngor hefyd yn defnyddio trafnidiaeth gymunedol i helpu'r cymunedau mwy gwledig y mae’r penderfyniad i gau’r bont wedi effeithio arnynt.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer pobl y mae’r penderfyniad i gau Pont Menai wedi effeithio arnynt | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.