BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid ar gyfer y Celfyddydau: Grantiau Ymateb ac Ail-ddychmygu

Mae grantiau ymateb ac ail-ddychmygu’n cynnig cyllid o rhwng £10,000 a £50,000, gan ddarparu cyllid i helpu amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol ymateb i heriau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â’r argyfwng Covid-19 a chynnig cymorth i addasu ac ail-ddychmygu ffyrdd o weithio yn y tymor hirach.

Croesewir ceisiadau gan amgueddfeydd cyhoeddus, orielau, tai hanesyddol, llyfrgelloedd ac archifau yn y DU sydd â:

  • gofodau i’r cyhoedd ymweld â nhw fel arfer a phrofi’r celfyddydau gweledol neu gasgliadau eraill seiliedig ar wrthrychau, gallai hyn gynnwys astudiaethau natur, morol a thrafnidiaeth, archaeoleg a hanes cymdeithasol
  • gallu dangos eich bod yn gweithredu fel arfer i safonau arferion gorau neu bod gennych hanes da o ddarparu gweithgarwch cyhoeddus o ansawdd uchel.

Mae dau gylch cyllid ar ôl eleni:

  • cyflwyno cais erbyn 5.30pm dydd Llun 17 August 2020, penderfyniad erbyn 21 Medi 2020
  • cyflwyno cais erbyn 5.30pm dydd Llun 12 Hydref 2020, penderfyniad erbyn 9 Tachwedd 2020

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Art Fund.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.