BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig 2021

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb Wanwyn, a dyma rai o’r pwyntiau allweddol:

  • Estyniad o'r Cynllun Cefnogi Swyddi hyd at fis Medi 2021 ledled y DU.
  • Estyniad o'r cynllun Cymhorth Incwm i’r Hunangyflogedig ledled y DU hyd at fis Medi 2021, gyda 600,000 yn fwy o bobl wedi cyflwyno ffurflen dreth yn 2019-20 bellach yn gallu hawlio am y tro cyntaf.
  • Cynllun Benthyciadau Adferiad newydd ledled y DU i sicrhau bod benthyciadau ar gael rhwng £25,001 a £10 miliwn, a chyllid asedau ac anfonebau rhwng £1,000 a £10 miliwn, i helpu busnesau o bob maint drwy'r cam adferiad nesaf.
  • Estyniad chwe mis o'r codiad Credyd Cynhwysol £20 yr wythnos ym Mhrydain Fawr. Taliad untro o £500 i hawlwyr Credydau Treth Gwaith cymwys ledled y DU.
  • Estyniad i'r toriad TAW i 5% ar gyfer lletygarwch ac atyniadau ledled y DU tan ddiwedd mis Medi, ac yna cyfradd o 12.5% am chwe mis arall tan 31 Mawrth 2022.
  • Mwy na dyblu'r terfyn cyfreithiol ar gyfer taliadau digyswllt sengl, o £45 i £100.
  • £10 miliwn i gefnogi cyn-filwyr ag anghenion iechyd meddwl ledled y DU.
  • £19 miliwn i fynd i'r afael â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr, gyda chyllid ar gyfer rhwydwaith o 'Ystafelloedd Seibiant' i gefnogi menywod digartref a rhaglen i atal aildroseddu.
  • Bydd cyflogwyr bach a chanolig yn y DU yn parhau i allu adennill hyd at bythefnos o gostau Tâl Salwch Statudol cymwys fesul cyflogai o'r Llywodraeth.
  • £100 miliwn ar gyfer Tasglu Diogelu Trethdalwyr newydd i fynd i'r afael â thwyllwyr COVID sydd wedi manteisio ar gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.