BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth Busnes Am Ddim I Fusnesau Bwyd Cymru

Gall busnesau bwyd a diod yng Nghymru gael cymorth ac arweiniad am ddim i fanteisio ar gyfleoedd caffael mawr yn y sector cyhoeddus.

Hwb bwyd a diod yw Larder Cymru. Mae'n dwyn ynghyd cynhyrchwyr a phroseswyr o Gymru fel eu bod mewn gwell sefyllfa i ymateb i gyfleoedd i gyflenwi’r sector gyhoeddus yng Nghymru.

Fel rhan o’u prosiect Larder Cymru, mae Menter Môn yn targedu cynhyrchwyr a phroseswyr bwyd yng Nghymru, gyda gweledigaeth i leoleiddio’r gadwyn gyflenwi a chael effaith gadarnhaol ar yr economi, gwerthoedd cymdeithasol a’r amgylchedd.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn canolbwyntio ar gydgysylltu a chryfhau cysylltiadau o fewn cadwyni cyflenwi lleol i osod bwyd a diod a gynhyrchir yn rhanbarthol fel cynnig cymhellol ar gyfer contractau mawr ledled y wlad.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Cymorth Busnes Am Ddim i Fusnesau Bwyd Cymru | Larder Cymru neu ebostiwch dafydd@mentermon.com


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.