BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth Gwerth Uchel i Fasnachwyr ar gyfer Prosesau Ffiniau Newydd: Rhaglen Gymorth y Gweithlu Maes

Cynigir Rhaglen Gymorth y Gweithlu Maes gan Swyddfa’r Cabinet i gefnogi busnesau sy’n masnachu gwerth dros £250,000 o nwyddau gyda’r UE bob blwyddyn.

Mae’r cymorth sydd ar gael yn amrywio o wahoddiadau i ddigwyddiadau arbenigol, datrys ymholiadau un-i-un, mwy o fynediad at astudiaethau achos busnes a chanllawiau sector-benodol gan arbenigwyr polisi.

I fod yn rhan o’r rhaglen hon bydd angen i chi ateb rhai cwestiynau ar eich busnes a’r nwyddau rydych chi’n eu masnachu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK.  

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.