BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth Pontio'r DU i fusnesau

Mae'r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wedi lansio gwasanaeth newydd i allforwyr. Os oes gennych fusnes yn y DU a'ch bod am werthu nwyddau neu wasanaethau dramor, defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ofyn cwestiwn i dîm cymorth allforio DIT. Gallwch ofyn unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’ch busnes, gan gynnwys:

  • allforio i farchnadoedd newydd
  • gwaith papur sydd ei angen arnoch i werthu eich nwyddau dramor
  • rheolau ar gyfer gwlad benodol lle rydych am werthu gwasanaethau

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.gov.uk/ask-export-support-team

Mae offeryn newydd wedi ei lansio yn ddiweddar hefyd sy’n gwirio sut i fewnforio neu allforio nwyddau, gyda chanllawiau wedi'u teilwra gam wrth gam. Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gael gwybodaeth am fewnforio ac allforio, gan gynnwys:

  • sut i gofrestru eich busnes ar gyfer masnachu
  • pa drwyddedau a thystysgrifau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich nwyddau
  • talu'r dreth a'r tollau cywir ar gyfer eich nwyddau
  • sut i wneud datganiadau er mwyn clirio’ch nwyddau ar ffiniau’r DU
  • pa waith papur sydd angen i chi ei gadw

Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.gov.uk/check-how-to-import-export


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.