Oes gennych chi bobl yn gweithio gartref dros dro o ganlyniad i’r achosion o’r Coronaferiws?

Fel cyflogwr, mae gennych chi’r un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch dros y rheini sy’n gweithio gartref ag unrhyw weithwyr eraill.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor ynghylch sut gallwch chi leihau’r risgiau i’w hiechyd, sy’n cynnwys gwybodaeth am y pynciau canlynol:

  • gweithwyr unigol
  • gweithio gyda chyfarpar sgrin arddangos
  • straen ac iechyd meddwl

I gael gwybod mwy, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen