BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyngor tywydd oer ar gyfer eich busnes

Gofalwch fod eich busnes yn barod ar gyfer misoedd oer y gaeaf.

Mae busnesau, ysgolion ac adeiladau fel canolfannau cymunedol neu leoliadau addoli yn arbennig o agored i bibellau'n byrstio yn ystod y gaeaf. Mae ystadau diwydiannol neu feysydd carafanau hefyd yn fwy tebygol o fod â phibellau agored a all rewi a byrstio. Maen nhw’n aml yn wag am ddiwrnodau, sy'n golygu na fydd neb yn sylwi ar bibell wedi byrstio, y tu mewn na'r tu allan i'r adeilad, gan achosi llifogydd a gollwng llawer iawn o ddŵr.

Gyda'r gaeaf yn nesáu, mae hi'n bwysig eich bod chi'n sicrhau bod eich busnes yn barod cyn i'r tymheredd ostwng a'r tywydd gaeafol daro.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cyngor tywydd oer ar gyfer eich busnes | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.