BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Cadernid Busnes Cymoedd De Cymru

Mae busnesau yng Nghymoedd De Cymru wedi wynebu nifer o heriau enfawr dros y 24 mis diwethaf - effeithiau llifogydd difrifol, ansicrwydd ynghylch Prydain yn gadael yr UE, cynnydd mewn seiberdroseddu ac, yn amlwg, y pandemig COVID.

Mae sicrhau cadernid busnes yn bwysicach nag erioed, ac mae cynllunio ar gyfer parhad busnes yn rhywbeth y dylai pob busnes ei ystyried. Yn y gynhadledd hon, bydd cynrychiolwyr yn clywed gan Wasanaeth Yswiriant y Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch sut i ddatblygu Cynllun Parhad Busnes er mwyn nodi risgiau a chynllunio ar eu cyfer. Bydd cynrychiolwyr yn clywed hefyd gan banel o fusnesau o’r Cymoedd ynghylch sut maent wedi goroesi’r ansicrwydd diweddar.

Cynhelir y gynhadledd rithwir ddydd Gwener 25 Mehefin 2021, rhwng 9.30am a 1.30pm.

Bydd cyfle hefyd i rwydweithio â busnesau a chynrychiolwyr eraill yn ystod y sesiynau grŵp rhithwir.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Ffederasiwn Busnesau Bach.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.