BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynigion i foderneiddio gwasanaethau tacsi yng Nghymru

Mae’r cynlluniau i foderneiddio gwasanaethau tacsi yng Nghymru wedi’u nodi mewn papur gwyn ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, 9 Mawrth 2023).

Bydd y cynigion yn gwireddu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i foderneiddio’r sector tacsis a cherbydau hurio preifat. Y bwriad yw gwneud gwasanaethau’n fwy diogel, yn fwy gwyrdd ac yn decach.

Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn chwarae rhan bwysig i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy ymarferol i deithwyr trwy gynnig dull teithio ar gyfer milltir gyntaf a milltir olaf eu taith, a dewis arall pan na fydd gwasanaethau cludiant eraill ar gael neu’n gweithio. 

Ond wrth drafod yn helaeth â’r diwydiant ac â rhanddeiliaid am y problemau sy’n wynebu’r sector, gwasanaethau anghyson oedd y pwnc a gododd dro ar ôl tro. Mae’r cynigion yn creu cae chwarae gwastad trwy gyflwyno safonau cenedlaethol gofynnol a fydd yn arwain at wasanaethau gwell a mwy diogel a chyson ledled Cymru.

Mae’r safonau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys hyfforddiant gorfodol i yrwyr i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau i ddelio’n broffesiynol ag amrywiaeth o deithwyr ac â’r gwahanol sefyllfaoedd all godi.

Byddai safonau cenedlaethol gofynnol yn helpu hefyd i daclo’r broblem ar draws ffiniau. Mae tacsis a cherbydau hurio preifat sydd wedi’u trwyddedu gan un awdurdod lleol yn cael cymryd archeb am daith sy’n dechrau neu’n gorffen mewn awdurdod lleol arall. Ond os ydyn nhw’n gweithio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall, gall hynny arwain at gystadleuaeth annheg, yn enwedig i’r rheini sy’n gorfod cadw at safonau uwch.

Bydd y cynigion yn rhoi arfau i awdurdodau lleol allu delio â cherbydau a gyrwyr sy’n gweithredu y tu allan i’w hardal.

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru): papur gwyn. Ymgynghoriad yn cau 1 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.