BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Braenaru NSTP 2020

Nod yr alwad hon gan y Rhaglen Technoleg Awyrofod Genedlaethol (NSTP) yw datblygu gallu sector awyrofod y DU trwy ddarparu cronfa sbarduno ar gyfer syniadau arloesol cynnar.

Mae grantiau hyd at £75,000 ar gael gan Lywodraeth y DU i sector awyrofod y DU ddatblygu technolegau masnachol a’u cyflwyno i’r farchnad.

Mae cyllid ar gael gan Asiantaeth Awyrofod y DU ar gyfer busnesau, a sefydliadau dielw ac academaidd.

Gofynnir am geisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil technoleg awyrofod a phrosiectau datblygu mewn meysydd megis:

  • arloesedd lefel parodrwydd technoleg gynnar
  • cysyniadau technoleg newydd
  • trosglwyddo gwybodaeth
  • datblygu sgiliau
  • mireinio syniadau
  • cynnal arolygon i’r farchnad
  • prawf o gysyniad

Mae’n bosibl y bydd angen cydariannu diwydiannol ar gyfer prosiectau penodol yn unol â Rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol yr UE.

Bydd yr alwad hon yn cau ganol dydd ar 10 Awst 2020.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.