BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun grant cymunedol ledled y DU gwerth £100,000

Mae Spar wedi lansio cynllun Arian Yn ôl Cymunedol gwerth £100,000 a fydd yn rhoi grantiau i elusennau lleol yn ogystal â grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Gall cwsmeriaid Spar wneud cais am grant ar gyfer sefydliad neu elusen y maent yn teimlo y byddai'n elwa o’r cyllid. 

Ydych chi'n gwybod am sefydliad sy'n haeddu cyllid? Gwnewch gais yma drwy rannu'r cyfraniad eithriadol y maent wedi'i wneud i'r gymuned leol ac ar gyfer beth y byddai'r grant yn cael ei ddefnyddio a gallent dderbyn hyd at £10,000! 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4 Mai 2022. 

I gael mwy o wybodaeth ewch i Community Cashback | SPAR
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.