BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun grant gwerth £10 miliwn i helpu pobl sy’n cael trafferth talu eu rhent yn ystod y pandemig

Bwriad y Grant Caledi i Denantiaid yw helpu pobl sydd wedi syrthio i ddyled o wyth wythnos neu fwy gyda’u taliadau rhent rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021.

Lluniwyd y grant i helpu pobl i aros yn eu cartrefi a’u hatal rhag colli eu tenantiaeth.

Gallai pobl sy’n byw mewn llety rhent preifat ac sydd wedi syrthio i ôl-ddyledion rhent o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig fod yn gymwys ar gyfer y grant. Efallai i’r ôl-ddyledion gronni gan fod yr unigolyn wedi colli incwm yn sgil cael ei roi ar ffyrlo, bod llai o waith ar gael, neu nad oedd modd iddo hawlio mwy na thâl salwch statudol pan oedd yn sâl gyda Covid-19.

Bydd y grant yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, ac ar gael i bobl nad ydynt eisoes yn derbyn budd-daliadau sy’n gysylltiedig â thai. 

Bydd pobl sy’n gymwys yn gallu cofrestru eu diddordeb gyda’u hawdurdod lleol ar unwaith a bydd y grantiau’n cael eu prosesu o ganol mis Gorffennaf. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.