BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun grant £1.4 miliwn i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol i wella effeithlonrwydd ynni bellach ar agor

Heddiw (23 Tachwedd 2022) cyhoeddodd Gweinidogion fod cynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio ar draws darparwyr Gofal Cymdeithasol Preswyl, a fydd yn helpu’r sector i ddelio â chostau’r argyfwng ynni, wedi’i lansio a bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

Mae’r cynllun £1.4 miliwn yn rhan o Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i gefnogi busnesau mewn rhannau o’n heconomi bob dydd leol, a elwir hefyd yn Economi Sylfaenol, i ddarparu mwy o’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n ofynnol gan y sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref.

Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi darparwyr gofal preswyl i weithredu mesurau effeithlonrwydd ynni a charbon isel, gan helpu i leihau effeithiau’r argyfwng costau ynni a symud y sector un cam yn agosach at allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

Mae’r cynllun peilot hwn ar agor i ddarparwyr gofal preswyl sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae’n cynnig grantiau rhwng £30,000 a £50,000 i ariannu buddsoddiadau, megis pympiau gwres, inswleiddio waliau ceudod, ffenestri gwydr dwbl/newydd, pympiau gwres o’r ddaear, inswleiddio atig, tanciau ac inswleiddio pibellau.

Mae gan fusnesau cymwys tan 21 Rhagfyr i ymgeisio am gyllid. Gellir cael gafael ar wybodaeth ar sut i ymgeisio drwy anfon e-bost at: CartrefiGofalEffeithlonORanYnni@llyw.cymru

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynllun grant £1.4 miliwn i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol i wella effeithlonrwydd ynni bellach ar agor | LLYW.CYMRU
 

 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.