BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu cyflogwyr i wneud yn fawr o’r doniau y mae pobl anabl yn gallu’u cyfrannu i’r gweithle.

Mae sefydliadau Hyderus o ran Anabledd yn chwarae rhan flaenllaw yn newid agweddau er gwell. Maen nhw’n newid ymddygiad a diwylliant yn eu busnesau, eu rhwydweithiau a’u cymunedau eu hunain, ac yn elwa o fanteision arferion recriwtio cynhwysol.

Mae’r cynllun yn helpu cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl dda, ac:

  • yn dewis o blith y gronfa ehangaf bosib o dalent
  • yn denu staff o safon, sydd â sgiliau da, sy’n deyrngar ac yn gweithio’n galed
  • yn gwella ysbryd ac ymrwymiad y gweithwyr drwy ddangos eich bod yn trin pob gweithiwr yn deg

Mae hefyd yn helpu cwsmeriaid a busnesau eraill i adnabod y cyflogwyr hynny sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb yn y gweithle.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.