BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Mynediad at Gyfarpar i BBaChau

Mae The Henry Royce Institute for Advanced Materials yn cynnig mynediad at gyfarpar gwyddor a pheirianneg deunyddiau modern i gefnogi BBaChau, cwmnïau deillio a busnesau newydd.

Mae Cynllun Mynediad at Gyfarpar i BBaChau Royce (yr hen Gynllun Talebau Cyflymu Deunyddiau) ar gael i BBaChau, cwmnïau deillio a busnesau newydd sydd wedi’u lleoli yn y DU ac yn cynnig mynediad at gyfleusterau gyda chymhorthdal, sy’n berffaith ar gyfer busnesau sy’n chwilio am ddatrysiadau i rwystrau i ddadansoddi deunyddiau.

Nod y cynllun yw:

  • goresgyn rhwystrau costau a dadrisgio ymchwil a datblygu seiliedig ar ddeunyddiau arbrofol
  • helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer cydweithio gyda Royce yn y dyfodol

Gall cwmnïau nodi darn o gyfarpar penodol sydd ei angen arnynt neu drafod pa dechnegau allai weithio orau ar gyfer dadansoddi seiliedig ar ddeunyddiau gyda Thimau Ymgysylltu â Busnes ac Ymchwil a Chyfleusterau.

Mae’n rhaid cwblhau prosiectau erbyn 20 Mawrth 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Henry Royce Institute.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.