BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Tymor Hir i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi cynllun tymor hwy Cymru i fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws.

Bydd Gyda'n Gilydd Tuag at Ddyfodol Mwy Diogel yn nodi dechrau cyfnod pontio Cymru y tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig - mae mesurau argyfwng wedi bod mewn grym ers dwy flynedd.

Mae’n amlinellu sut y gall Cymru fyw’n ddiogel gyda’r coronafeirws - yn union fel yr ydym yn byw gyda llawer o glefydau heintus eraill - a beth y bydd hynny’n ei olygu i wasanaethau iechyd y cyhoedd a’r mesurau diogelu a roddwyd ar waith mewn ymateb i’r pandemig, gan gynnwys gwasanaethau profi.

Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero am y tair wythnos nesaf, gyda’r lefel bresennol o fesurau diogelu mewn grym. Ond gallai’r holl fesurau cyfreithiol gael eu dileu o 28 Mawrth 2022 ymlaen, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn aros yn sefydlog.

Cynhelir yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws erbyn 24 Mawrth 2022, pan gaiff gweddill y mesurau cyfreithiol ar lefel rhybudd sero eu hadolygu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.