BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllunio ffyrdd o leihau gwastraff plastig: gwnewch gais am gyllid

Mae Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, hyd at £800,000 gan y Gronfa Ymchwil ac Arloesi Plastigion, i fuddsoddi mewn prosiectau busnes sy’n ceisio deall ymddygiad cwsmeriaid a defnyddwyr yn well a defnyddio’r ddealltwriaeth honno i greu cysyniadau cynllunio arloesol.

Mae’n rhaid i brosiectau ddatblygu cysyniadau cynllunio nad ydynt yn dibynnu ar blastig defnydd untro gan ddefnyddio ymchwil ymysg defnyddwyr a chwsmeriaid. Gallent ystyried ailgynllunio nwyddau, gwasanaethau neu fodelau busnes presennol neu gynllunio rhai cwbl newydd. Dylai’r cysyniad cynllunio roi blaenoriaeth i ailddefnyddio cynhyrchion ac ymestyn bywyd cynhyrchion dros ailgylchu.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Medi 2020 am hanner dydd a gall busnesau o bob maint wneud cais.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.