BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadlaethau SBRI ar agor ar gyfer ceisiadau

Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI wedi lansio tair her newydd gyffrous.

Her 1: Cyfathrebiadau Cleifion

Mae cyllid ar gael i fusnesau a'r byd academaidd weithio gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru i ddatblygu atebion arloesol i helpu i wella mynediad at wybodaeth ar gyfer perthnasau cleifion tra bod eu hanwyliaid yn yr ysbyty a lleihau'r galw ar amser staff. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Simply Do - Patient Comms

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yma yw hanner dydd, 14 Rhagfyr 2022.

Her 2: Anhwylderau MSK ar gyfer Llawfeddygon ENT

Yn rhan o’r her hon, mae cyllid ar gael i fusnesau a'r byd academaidd weithio gyda Llawfeddygon y Glust, y Trwyn a’r Gwddf (ENT) o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru i ddatblygu atebion arloesol a all wella'r ergonomeg ar gyfer ENT wrth berfformio Llawdriniaeth Endosgopig y Glust.  

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Simply Do - ENT MSK Challenge  

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yma yw hanner dydd, 6 Ionawr 2023.

Her 3: Gwaredu Nwyon Meddygol Ocsid Nitraidd ac Entonox yn Ddiogel ac yn Foesegol

Mae cyllid ar gael i fusnesau a'r byd academaidd weithio gyda chydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Byrddau Iechyd eraill ledled Cymru i ddatblygu a dangos atebion arloesol ar gyfer gwaredu'r nwyon hyn yn ddiogel, yn benodol o gwmpas y ddwy thema ganlynol: 

  • Thema 1 – gwaredu nwy yn ddiogel o fewn silindrau ocsid nitraidd wedi'u llenwi'n rhannol cyn eu dychwelyd i'r cyflenwr 
  • Thema 2 – ateb i'r broblem o'r lefelau uchel o Entonox sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer ar ôl iddo gael ei ddefnyddio ar ein wardiau

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol:  Simply Do - Safe Disposal of Medical Gases  

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yma yw hanner dydd, 6 Ionawr 2023.

Digwyddiad briffio ar yr heriau newydd
Bydd y digwyddiad ar-lein am ddim yn rhoi cyfle i chi glywed gan y Perchnogion Her yn uniongyrchol am eu problem benodol a gofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych i'ch galluogi i gwblhau eich ceisiadau. Cynhelir y digwyddiad ar 30 Tachwedd 2022 am 1pm. 

I drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol SBRI Health Programme 2022-2024: SBRI Health Programme 2022-2024: Briefing Event on New Challenges Tickets, Wed 30 Nov 2022 at 13:00 | Eventbrite

Cynhaliwyd y digwyddiad briffio ar 30 Tachwedd ac mae modd gwylio'r recordiad o'r digwyddiad yma https://youtu.be/W9MAdAazSeE 

 

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.