BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth ariannu Masnacheiddio Symudedd Cysylltiedig ac Awtomataidd

Mae cystadleuaeth newydd gwerth £40 miliwn i roi hwb i wasanaethau hunanyrru masnachol, fel cerbydau dosbarthu a gwenoliaid teithwyr, wedi cael ei lansio.

Bydd y gystadleuaeth 'Masnacheiddio Symudedd Cysylltiedig ac Awtomataidd', sy'n cael ei chynnal gan y Centre for Connected and Autonomous Vehicles (CCAV), yn darparu grantiau i helpu cyflwyno cerbydau hunanyrru at ddefnydd masnachol ledled y DU o 2025 ymlaen, gan ddarparu cyfleustra i ddefnyddwyr a gwneud teithiau'n fwy diogel, gwyrddach a mwy dibynadwy. 

Bydd y gystadleuaeth yn helpu i ddod â chwmnïau a buddsoddwyr ynghyd fel y bydd modelau busnes cynaliadwy yn cael eu cyflwyno'n genedlaethol a'u hallforio'n fyd-eang. 

Mae'r mathau o gerbydau hunanyrru y gellid eu defnyddio yn cynnwys: 

  • faniau dosbarthu 
  • bysiau teithwyr 
  • bysiau gwennol a phodiau
  • cerbydau sy'n symud pobl a bagiau mewn meysydd awyr a chynwysyddion mewn porthladdoedd llongau 

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 20 Gorffennaf 2022. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Competition overview - Commercialising Connected and Automated Mobility: Deployments - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.