BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth astudiaethau dichonoldeb ar gyfer atebion Deallusrwydd Artiffisial

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o hybu cynhyrchiant a datrys heriau yn eich busnes?

Neu, a oes gennych ateb Deallusrwydd Artiffisial (AI) arloesol a allai fod o fudd i fusnesau sy'n gweithredu mewn sectorau â photensial am dwf uchel? 

Os ydych, yna mae'r gystadleuaeth hon yn addas i chi.

Mae cystadleuaeth ariannu BridgeAI, ‘Astudiaethau dichonoldeb ar gyfer atebion Deallusrwydd Artiffisial’ bellach ar agor ac yn derbyn ceisiadau.

Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £5 miliwn mewn cyllid grant i gefnogi astudiaethau dichonoldeb ar y cyd ar gyfer atebion Deallusrwydd Artiffisial ar draws ystod o sectorau diwydiant allweddol, gan gynnwys:

  • Amaethyddiaeth a phrosesu bwyd 
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol 
  • Trafnidiaeth (gan gynnwys logisteg a warysau)

Mae cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn cau ar 24 Mai 2023.

I ddysgu mwy am y gofynion cymhwyster a chwmpas, gwiriwch recordiad y digwyddiad briffio a chliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth Feasibility studies for Artificial Intelligence solutions - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.