BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth 'Heroes of Net Zero'

Mae ymgyrch Llywodraeth y DU, Gyda'n Gilydd ar gyfer ein Planed, am ddathlu'r busnesau bach sy'n cymryd y camau mwyaf arloesol i fynd yn wyrdd a lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr eu hunain i ddod yn fusnes sero-net erbyn 2050!

Mae'r gystadleuaeth 'Heroes of Net Zero' am ddod o hyd i fusnesau bach gorau'r DU sy'n cymryd camau arloesol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Gwahoddir yr ymgeiswyr gorau i fynychu uwchgynhadledd newid hinsawdd ryngwladol COP26 yn Glasgow ar 2 Tachwedd, lle bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ac yn derbyn pecyn gwobr unigryw gwerth £4,500.

Rhaid i chi fod yn fusnes bach wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig gyda 50 o weithwyr neu lai.
Bydd yr enillwyr yn cael eu beirniadu mewn dau gategori:

  • Micro – 1-9 o weithwyr cyflogedig
  • Bach – 10-50 o weithwyr cyflogedig

Rhaid i chi wneud ymrwymiad cyhoeddus i fod yn fusnes Sero-Net erbyn 2050 - Dysgwch fwy am yr ymrwymiad

Mae'r gystadleuaeth yn cau am 23.59pm ar 6 Hydref 2021.

Dysgwch fwy drwy ddilyn y ddolen ganlynol Heroes of Net Zero Competition - SME Climate hub (businessclimatehub.org)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.